I’r Dydd

  • Mae Trefn Gwasanaeth yn helpu i hysbysu gwesteion am drefn gronolegol y seremoni. Gall hyn gynnwys darlleniadau a geiriau emynau. Fel arfer bydd yn daflen A4 wedi ei blygu yn ei hanner i fod yn lyfryn A5.

  • Bydd Bwrdd Croeso fel arfer yn arwydd A1 yn eistedd ar îsl i groesawu eich gwesteion i'r lleoliad.

  • Efallai eich bod wedi cynnwys Trefn y Dydd ar eich gwefan, neu efallai eich bod eisiau arwydd ar y dydd i atgoffa eich gwesteion. Bydd fel arfer yn arwydd A1 neu gallwn weithio i unrhyw syniad sydd gennych.

  • Gall Gynllun Eistedd fod yn arwydd A1 neu yn dudalennau unigol i'w hongian neu eu harddangos, gyda thudalen i bob bwrdd.

  • I gyd-fynd gyda Chynllun Eistedd, bydd gan bob bwrdd gerdyn gyda rhif neu enw arno.

  • Gallaf ddylunio Place Names i gyd-fynd gyda thema yr eitemau papur eraill. Mae sawl gwahanol steil a phapurau y gallwn eu trafod. Gallwn gynnwys dewis bwyd ar rhain neu eu cadw’n draddodiadol gydag enwau yn unig.

  • Bydd rhai cyplau yn hoffi cael un neu ddwy fwydlen ar bob bwrdd er mwyn dangos yr opsiynau GF / DF ac i roi manylion y bwyd. Mae hyn yn gweithio'n wych os ydi'r bwyd mewn steil rhannu. Os yw eich gwesteion wedi dewis eu prydau, un opsiwn ydi cynnwys eu dewisiau ar y Place Names.

  • Os ydych yn chwilio am ambell arwydd papur i'r dydd, gallaf wneud rhain i chi. Gall fod yn arwydd ffôn Calleo, lle i adael anrhegion, arwydd i helpu eu hunan i flip flops neu greision, unrhyw beth sydd gennych mewn meddwl.

  • Mae cwpanau steil gŵyl neu Eisteddfod wedi dod yn boblogaidd y blynyddoedd diwethaf. Gallaf greu darlun unigryw sy'n cyfleu stori eich perthynas, neu ddarlun blodeuog i siwtio steil eich gwahoddiadau. Mae'n anrheg gwych i'r gwesteion gofio'r dydd. Mae pris creu’r darlun yn amrywio o £120 - £300 ac argraffu tua £300 ar ei ben.