
Cwestiynau
Cyffredin
Pryd ddyliwn ni yrru ein gwahoddiadau?
Fel arfer fydd pobl yn gyrru eu gwahoddiadau 3-6 mis cyn y briodas.
Pryd sy’n amser da i gysylltu?
Dydi hi byth yn rhy fuan i gysylltu. Pan fyddwch yn gwybod dyddiad y briodas mae hynny’n adeg da i gysylltu. Gallwch ddefnyddio y ffurflen gyswllt neu e-bostio post@heleddowen.co.uk.
Beth fydd yn digwydd yn y sgwrs gyntaf?
Mae’r sgwrs gyntaf yn bwysig i ni drafod y gwahanol eitemau, niferoedd a steil sydd gennych mewn meddwl. Peidiwch a phoeni os nad ydych yn siwr am unrhyw beth ar y pwynt yma – gallaf ddangos y gwahanol opsiynau a phrisiau i chi.
Os modd gweld samplau?
Ar ôl ein sgwrs dros Zoom gallaf yrru samplau wedi eu teilwra i chi weld y gwahanol opsiynau. Os y byddwn yn cyfarfod yn y stiwdio, gallaf ddangos rhain i chi mewn person.
Beth yw cost gwahoddiadau?
Gallwch weld fy mhrisiau bras ar y dudalen Prisiau. Mae gwahanol bethau yn gallu newid y gost fel y nifer o wahoddiadau, dull argraffu ac eitemau ychwanegol.
Sut fyddwn ni’n talu?
Ar ôl i chi gadarnhau eich bod yn hapus gyda’r amcanbris, does ddim angen talu deposit. Bydd un anfoneb am y gwahoddiadau ac ail anfoneb am yr eitemau i’r dydd, ar ol eu cwblhau. Gofynnwch yn ein cyfarfod cyntaf os hoffech dalu ar y cychwyn yn hytrach nag ar y diwedd.
Ydi hi’n bosib cael eitemau dwyieithog?
Wrth gwrs! Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, ‘dw i wrth fy modd i allu cynnig y gwasanaeth yma. Gallwn naill ai gael eitemau dwyieithog neu Cymraeg a Saesneg ar wahân. Cyn dechrau dylunio byddaf yn gofyn i chi yrru dogfen Word atai gyda’r geirio ar gyfer yr eitemau. Mae fyny i chi wirio’r iaith a byddaf yn gofyn i chi wirio popeth un tro olaf cyn i ni fynd ati i argraffu.
Ydi’n bosib cael gwahoddiadau hollol unigryw?
Os ydych yn edrych am gasgliad hollol arbennig i chi gallwn weithio gyda’n gilydd i ddod a’ch syniad yn fyw. Bydd y pris yn uwch i adlewyrchu’r gwaith ac amser ychwanegol. Ar ôl trafod byddaf yn creu dyluniad yn union fel sydd gennych yn eich meddwl. Dyma opsiwn perffaith os oes gennych chi Pinterest board yn llawn syniadau am eich gwahoddiadau perffaith, neu os ydych eisiau casgliad hollol arbennig i chi fel cwpl. Os nad oes gennych syniad penodol, gallaf gynnig syniadau i gyd-fynd gyda thema eich priodas.
Sut allwn ni efelychu ein gwahoddiadau?
Mae sawl ffordd i efelychu eich gwahoddiadau. Dyma ychydig o enghreifftiau -
Wax Seal / Stamp, Llawes Velwm, Rhuban
Amlenni wedi’u leinio
Enwau’r gwesteion ar bob gwahoddiad
Gwahanol ddulliau argraffu - argraffu gydag inc gwyn, ffoil a Letterpress
Papur lliw / textured / hadau / trwchus / wedi’i dorri
Beth yw Letterpress?
Gallwch ddysgu mwy am Letterpress yma.